29/04/2010

Newyddion Allan (ma's)
Cawson ni benwythnos tawel. Fore dydd Sadwrn ro'n i'n brysur yn glanhau fy ngarej. Wedyn gweithiais i yn yr ardd. Torrais i'r lawnt yn gyntaf cyn torri hen goeden i lawr (dim ond tua wyth troedfedd oedd y goeden.) Es i â sbwriel yr ardd i'r dymp yn Trostre. Wedyn, es i i fwydo ceffylau fy nhad yng nghyfraith. Es i ddim ma's nos Sadwrn. Bues i'n helpu fy nhad yng nghyfraith fore dydd Sul achos daeth ffermwr â llwyth o wair i'r ceffylau. Ces i ginio gyda rhieni Gaynor. Gwyliais i'r Sgarlets yn curo Connought ar y teledu yn y prynhawn.

Newyddion Laura
Wnes i ddim llawer dros y penwythnos. Es i i redeg fore Dydd Sadwrn ac ar ôl i ni gael cinio es i â Joe i Barc Howard i fwydo'r hwyaid a chwarae. Es i i redeg fore dydd Sul hefyd ond es i ddim i unman drwy'r dydd. Edrychon ni ar DVD 'Transformers' yn y prynhawn ac ymwelodd mam Neil â ni amser te.

No comments: