11/04/2010


Taith mewn balwn
Ddoe aeth Dyfrig a finne ar daith mewn balwn. Teithion ni i Gaerdydd fore dydd Sawdrn a gadael Max gyda fy mab Aled am y dydd. Nesa' aethon ni i Fryste - roedd Emyr yn mynd nôl i'r Brifysgol. Mae dwy arholiad 'da fe wythnos nesa'. Wedyn teithion ni lawr i Yeovil erbyn 4 o'r gloch. Cymerodd hi tua awr i baratoi popeth ar gyfer yr hediad ac roedd rhaid i ni orwedd yn y fasged pan oedd y balwn yn codi. Roedd deg ohonon ni ac roedd llawer o chwerthin nerfus ar y dechrau. Aeth y balwn lan i 2700 troedfedd - uchel iawn. Pan laniodd y balwn, neidiodd y fasged tairgwaith ac wedyn cwympodd y fasged ar ei hochr. Daeth Land Rover y cwmni i gasglu ni a chawson ni cwpwl o wydraid o siampên cyn dechrau nôl am Gaerdydd.
Roedd Max wedi mwynhau ei ddiwrnod gyda Aled a chysgodd e'r holl ffordd nôl i Lannon. Roedd Aled wedi blino'n lan hefyd!!!


No comments: