06/05/2010

Newyddion Graeth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Dw i wedi bod yn brysur dros y penwythnos diwetha, roedd y tywydd mor braf, gweithais i yn yr ardd bore Sadwrn, bore Sul, a bore Llun. Mae popeth yn dechrau tyfu, fel arfer mae’r chwyn yn tyfu o flaen y llysiau. Aeth fy ngwraig a fi i ymweld â fy chwiorydd i yng Nghaerfyrddin brynhawn Sul ac wedyn brynhawn Llun, roedd fy nith i wedi dod o Derby i ymweld â’i mam hi hefyd, cawson ni sgwrs neis gyda’n gilydd.

Newyddion Gareth (newydd)
Es i ddim i Sili penwythnos diwetha achos cafodd un o fy wyrion frech yr ieir. Cawson ni ein hwyres i aros gyda ni dros y nos Sul felly ro'n i'n gallu ymarfer siarad Cymraeg gyda hi.
Es i ddoe i Slough gyda’n merch hena. Roedd cyfarfod ‘da hi ym mhencadlys y cwmni mae hi'n gweithio iddo. Gyrrais i nôl i Gaerdydd i ddal y tren nôl i Borth Tywyn. Ro'n i'n synnu ar gymaint o waith sy’n cael ei wneud ar y draffordd rhwng Caerdydd a Llundain.

No comments: