11/05/2010

Newyddion Mike - mae e wedi bod bant ar wyliau hyfryd!
Wythnos dda! Aethon ni i’r “Porthladd Persawrus / Fragrant Harbour” gyda chwmni Awyr Seland Newydd o Heathrow . Beth yw’r Porthladd Persawrus? Ynys Hong Kong yw hi! Roedd y Sieineaid yn arfer gwerthu blodau yn y porthladd ac wrth gwrs roedd persawr hyfryd. Dw i’n meddwl taw Hong Kong yw’r ddinas mwya cyffrous yn y byd. Teithion ni o gwmpas yr ynys, Marchnad Stanley, Portladd Aberdeen, Y Copa (Peak), i edrych ar Hong Kong liw nos ac aethon ni i Kowloon ar Ynys Lantau. Teithion ni ar awyren, cwch, bws, trên MTR, car cêbl, trên cêbl a "Star Ferry" yn ystod yr wythnos. Wythnos brysur.

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Yn anffodus, does dim llawer o hanes gyda fi ar hyn o bryd. Ddydd Sadwrn aeth fy ngwraig a fi i ymweld â fy chwiorydd i yng Nghaerfyrddin. Ddydd Sul aethon ni i Gasllwchwr i weld ein hwŷr ni’n chwarae dros Camford mewn twrnamaint pêl-droed, ar ôl y twrnamaint aethon ni i’r ‘Cockelshell’ yng Ngorseinon am ginio dydd Sul. Ddydd Llun chwaraeais i golff yn y bore gyda Neil a fy ngwraig i Jackie, gwnes i fy ngwaith cartref yn y prynhawn.

No comments: