25/05/2010

Newyddion Allan (ma's)
Sut mae bawb?
Dw i'n edrych ymlaen at hanner tymor achos rydyn ni wedi trefnu mynd i Wbert yn Sir Aberteifi am ddwy noson. Byddwn ni'n aros yng Ngwesty'r Cliff. Rydyn ni wedi aros yno o'r blaen ac rydyn ni'n hoffi'r ardal. Mae pwll nofio hyfryd yn y gwesty. Byddwn ni'n falch i ddefnyddio hwn os bydd hi'n bwrw glaw.
Hwyl am y tro.
Allan.

Newyddion Gareth (newydd)
Nos Sadwrn diwetha aeth fy ngwraig a fi gyda ffrindiau i 'r “Opera Ball” yn Neuadd Goffa Porth Tywyn. Mwynheuon ni noson ardderchog. Roedd Morriston Big Band yn chwarae yn fyw ac roedd y bwyd yn flasus iawn.
Dawnsion ni drwy’r nos. Cawson ni ddiwrnod tawel ddydd Sul! Aethon ni i Sili ddoe i ddathlu penblwydd ein hŵyr hena. Cafodd e ddillad pêl droed tîm Chelsea ac roedd e'n edrych yn ffantastig!

Newyddion Scott
Ddydd Sadwrn diwetha, es i i Gaerdydd i weld y gêm rhwng Llanelli a Chwins Caerfyrddin yn Stadiwm y Mileniwm. Roedd hi’n gêm eitha diflas, ond enillodd Llanelli y gêm 20-8.
Ddydd Llun , gyrrais i i Dregaron i ymwled â’r ysgol gyfun yn y dre. Ges i gyfarfod gyda nifer o athrawon yn yr ysgol am gyfleoedd i ddod mas o’r ysgol i gael lleoliadau gyda chwmniau yn yr ardal.
Nos Fercher, gwelasi i gêm pêl droed bwysig ar y teledu, rhwng Dinas Caerdydd a Chaerlyr. Roedd hi’n gêm gyffrous. Enillodd Caerdydd, a nawr maen nwh’n cael y cyfle i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.
Nos ‘fory, dw i’n meddwl af i i’r sinema newydd yng Nghaerfyrddin.

Newyddion Mike
Ar ôl Hong Kong, roedd y penwythnos yn dawel. Cawson ni nos Fercher dawel gyda photel o win. Fore dydd Sadwrn es i i’r clwb ffitrwydd a gwnaethon ni (fy ngwraig a fi) tamaid bach o siopa ym Mharc Trostre. Brynhawn dydd Sadwrn aeth fy nau fab a fi i’r “driving range” yng nghlwb golff Pentre Nicholas, Morfa. Wrth gwrs, roedd y tywydd yn boeth dros y penwythnos, amser i gael BBQ. Coginiais i BBQ ddydd Sul, cafodd neb fola tost, dwi’n meddwl!

No comments: