09/03/2010


Neges Victoria
Roedd Dydd Gwyl Dewi yn ddydd arbennig y blwyddyn ma, achos dyma’r un cyntaf i Owain. Aethon ni i’r ysgol i weld sioe. Roedd Seren ac Evan yn canu. Roedd Owain yn mwynhau …roedd e’n dawnsio a chwerthin trwy’r sioe!
Cafodd Evan ddamwain fach ddydd Iau diwethaf. Cwmpodd e lawr ty fa’s i’r ysgol a bwrodd ei wyneb ar y wal a’i benelin ar y llawr. Mae dausgathrad mawr da fe. Roedd e’n falch iawn mynd i’r ysgol ddydd Gwener gyda dau blaster mawr!

No comments: