11/03/2010

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfellion,
Ces i benwythnos tawel yr wythnos hyn, ddydd Sadwrn arhosais i yn fy nhŷ. Fore dydd Sul, aeth fy ngwraig a fi i Gasllwchwr i weld ein hwŷr ni’n chwarae dros Camford mewn twrnamaint pêl-droed. Enillon nhw dair gêm, ac un gêm gyfartal. Sgoriodd Rio, fy wŷr i, ddwy gôl i gyfartalu yn y gêm ddiwetha. Fore dydd Llun chwaraeon ni golff - fi, fy ngwraig a’n ffrind ni. Yn y prynhawn aeth fy ngwraig a fi i ymweld â fy chwiorydd yng Nghaerfyrddin. Chwaraeon ni golff fore dydd Mawrth hefyd, achos roedd y tywydd yn braf iawn.

Neges Laura
Dw i wedi cael penwythnos dawel. Es i i siopa i Tesco nos Wener. Brynhawn dydd Sadwrn es i i dŷ fy ffrind i gyda Joe achos bod penblwydd ei merch hi - roedd hi'n saith oed. Fore dydd Sul es i ar ein beic ymarfer ni yn y garej am hanner awr ac wedyn gwnes i ginio dydd Sul. Yn y prynhawn, aethon ni i weld fy nhad i am ddisgled a sgwrs.

Neges Gareth (newydd on ddrwg ambell waith)
Es i i Sili eto ddydd Iau diwetha i helpu fy merch hena. Roedd ei phartner wedi mynd tramor i chwarae golff.
Roedd e'n dda i weld fy wyrion Callum a Gregor. R'on i'n gallu ymlacio yn ystod y dydd achos bod y bechgyn yn yr ysgol. Maen nhw'n deffro am chwech o'r gloch yn y bore! Paratoiais a choginiais i gawl cennin a thaten am saith o'r gloch fore dydd Sadwrn. Hanner ffordd drwy’r bore aethon ni i Borth Tywyn i gael cinio gyda fy ngwraig. Ymunodd ein hwyres, Haf, â ni. Wedyn aethon ni ar y traeth ar bwys yr harbwr. Casglon ni lawer o gregyn ac adeiladu castell tywod. Mwynheuon ni’r prynhawn.
Es i i'r gwely yn gynnar nos Sadwrn!

Neges Neil
Ddydd Sadwrn diwetha es i i'r ocsiwn yn Cross Hands ond phrynais i ddim byd, roedd gormod o bobl 'na. Roedd y tywydd wedi bod yn hyfryd iawn fel heddi - dw i'n meddwl af i i chwarae golff. Dyma’r tro cyntaf y flwyddyn 'ma. Ddoe daeth fy ffrind Viv i ginio. Ro'n i wedi coginio cawl cartref, cig oen ac haidd perl a phwdin Aztec siocled poeth cartref 'da cwstard rwm (eto). Roedd e'n flasus iawn (a dyn ni wedi bwyta fe i gyd).

Neges Scott
Rhedais i yn Hanner Marathon Llanelli. Roedd hi’n râs galed – roedd e’n iawn am y pum milltir cyntaf ond rhwng milltir chwech ac unarddeg, roedd hi’n wyntog iawn. Arafodd hi fi braidd. Des i 17eg mas o tua mil ac hanner o bobl. Dw i’n eitha balch!
Yr wythnos hon, prynodd fy ffrind tocynnau i weld Paul McCartney yn yr hâf, yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Gwelais i fe yn Birmingham, tua saith blynedd yn ôl. Roedd e’n ardderchog yna, felly dw i’n edrych ymlaen tuag at sioe arbennig eto.
Ddydd Llun, talais i ddirwy parcio i’r cyngor. Parcais i fy nghar gyferbyn a thŷ fy rhieni yn Felinfoel ddydd Gwener diwetha, ar llinellau melyn dwbl ond dim ond am bum munud. Yn anffodus, ro’n i’n rhy hwyr – gaeth y warden y ddirwy i fi erbyn hynny. Ro’n i’n grac iawn – dw i’n grac iawn o hyd!
Yr wythnos i ddod, dw i’n meddwl bydda i’n gwylio’r gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon, falle yn y tŷ y tro hwn. Hefyd, rhediad hir – 21ain milltir i baratoi am Llundain y mis nesaf.

No comments: