24/03/2010

Neges Mike
Aethon ni i sioe “Hairspray” wythnos diwetha i weld fy wyres, Alicia. Mae hi’n ddeuddeg oed - roedd darn bach ‘da hi yn y sioe. Roedd y sioe yn Theatr Penyrheol yng Ngorseinnon. Roedd y sioe yn broffesiynnol iawn. Perfformiwyd y sioe gan Ysgol Lwyfan Mark Jermin.
Fore dydd Sadwrn es i i’r gampfa ffitrwydd ac edrych ar rygbi ar y teledu yn weddill y dydd. Enillodd Cymru o’r diwedd, yn erbyn Yr Eidal, enillodd Yr Alban a Ffrainc hefyd. Diwrnod perffaith! Mae llygaid sgwâr ‘da fi!
Ddydd Sul, aethon ni i siopa yn y bore a yn y prynhawn gweithias i yn yr ardd. Yn anffodus dechreuodd hi fwrw glaw, felly gwnes i’r gwaith cartref!

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Roedd y benwythnos hon yn llawer llai prysur na phenwythnos diwetha. Fore dydd Sadwrn es i i chwarae snwcer gyda fy ŵyr i. Edrychais i ar gêm Cymru yn erbyn yr Eidal ar y teledu gyda fy ŵyr a fy mab yng nghyfraith i yng Ngwesty’r Hannerffordd. Fore dydd Sul aeth fy ngwraig a fi i weld ein hŵyr ni’n chwarae dros “Camford”, collon nhw 3-2, ond chwaraeon nhw’n dda yn erbyn tîm henach na nhw.
Cawson ni gêm o golff brynhawn dydd Llun a fore dydd Mawrth aethon ni i’r gampfa.Mae hi’n brynhawn dydd Mawrth nawr, a dw i’n gwneud fy ngwaith cartref.

Neges Victoria
Am wythnos gyffrous! Prynon ni garafan ar y penwythnos, a bwcias i le mewn safle yn Aberhonddu (Brecon Beacons) am dair nos dros wyliau’r Pasg.
Collodd Seren un dant arall ac mae hi’n disgwyl yn ddoniol iawn nawr!
Roedden ni’n falch iawn o Evan ddydd Llun. Daeth e adre o ysgol gyda ‘Dilwyn Y Ddraig’ (tegan i’w gadw am gwpl o ddyddiau - gwobr am siarad Cymraeg yn dda iawn yn y dosbarth). Mae e’n gallu fy helpu i gyda fy ngwaith catref nawr!
Mae dau sŵn newydd ‘da Owain…’Buh’ a ‘Rarr!’ (fel teigr…..teigr Cymraeg wrth gwrs!).

Neges Gareth newydd (ond yn ddrwg yn aml nawr)
Ro’n i wedi gobeithio am wledd o rygbi ddydd Sadwrn diwetha ond roedd pob gêm yn siomedig. Roedd Cymru yn chwarae yn erbyn tim Eidaleg diflas. Roedd y gemau eraill yn ddiflas hefyd. Efallai bod eisiau newid rheolau’r gêm!
Pan oedd y tywydd yn addas dw i wedi gafael ar y cyfle i seiclo ar y ffordd arfordirol fel arfer.
Dw i'n edrych ymlaen at blannu hadau llysiau yn yr ardd. Dyma’r tro cyntaf ers symud i Borth Tywyn. Ond does dim llawer o le da fi tu cefn i’r byngalo.

No comments: