03/03/2010


Neges Neil
Sut mae bawb.
Wel wrth gwrs nos Iau diwetha es i i weld Jethro yn y Grand. Roedd e'n ddoniol iawn. Dw i'n hoffi Jethro a mwynheuais i’r sioe yn fawr. Wythnos hon, dw i wedi bod yn ceisio ffeindio hediad rhad i Gibraltar ym mis Mai - ond maen nhw wedi dod yn ddrud iawn nawr. Dw i ddim yn meddwl byddaf i'n mynd. Nawr dw i'n edrych ymlaen at eich gweld chi eto. Mae llawer o luniau i ddangos i chi o fy nhaith drwy Gamlas Panama. Ddoe (Dydd Gwyl Dewi) arhosais i adre - rhaid i fi arbed arian yn barod am fy mordaith i'r Môr Du y flwyddyn nesa.
Hwyl. Gwela i chi nos Iau!
Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Aeth fy ngwraig a fi i ‘Westy’r Hannerffordd’ ar nos Wener, cawson ni bryd o fwyd ac edrychon ni ar gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar y teledu. Roedd Cymru’n ofnadwy yn yr hanner cyntaf fel arfer, ond chwaraeon nhw’n dda drwy’r ail hanner. Roedd y bwyd yn dda iawn, ces i lleden, cafodd fy ngwraig i gyw iâr.
Gwnes i ddim llawer ddydd Sadwrn, ond dydd Sul aeth fy ngwraig a fi i Gaerfyrddin i ymweld â fy chwaer i, mae hi’n saith deg a chwech oed, ond dydy hi ddim yn iach ar hyn o bryd, mae fy chwaer hena sy’n dod o Basingstoke yn gofalu am hi nes iddi hi wella.
Chwaraeais i golff fore dydd Llun gyda fy ngwraig i a ffrind o’r enw Neil Blower, nid Neil Price, chwaraewr tywydd teg yw e. Mae gout ‘da fi ar hyn o bryd, gobeithio bydd e’n clirio lan yn fuan.
Neges Eileen
Sut mae bawb.
Mae’r Gwanwyn wedi dod! Mae cwpwl o gennin Pedr yn yr ardd. Maen nhw ddim ond dwy neu dair o fodfeddi uwchben y ddaear ar hyn o bryd. Gobeithio bod yr eira wedi mynd, o'r diwedd. Sa i'n mynd i siarad am y gêm rygbi wythnos diwetha. Falle, bydd y gêm nesa'n well.

No comments: