18/03/2010

Neges Mike
Penwythnos dawel. Cawson ni nos Wener dawel yn y ‘stafell haul pan coginiodd fy ngwraig fwyd bys a bawd gyda botel o win coch. Es i i’r gampfa ffitrwd fore dydd Sadwrn ac edrychais i ar y rygbi ar y teledu yn y prynhawn, Iwerddon yn erbyn Cymru.. Prynhawn o waith, rhaid i fi chwarae golf am newid. Sa i’n moyn edrych ar Cymru’n colli eto! Dw i ddim yn edrych ymlaen at Gwpan y Byd, so tîm Cymru ‘n ddigon dda. Llawer o bethau i wneud, hwyl fawr!

Neges Gareth (da ond drwg ambell waith - a dweud y gwir yn ddrwg yn aml nawr!)
Doedd dim hwyl gyda Cymru yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn diwetha. Dylai Iwerddon fod wedi sgorio llawer mwy o bwyntiau.Seiclodd fy ngwraig a fi i Barc Wledig Penbre fore dydd Sul a chawson ni fflasc o goffi a fwynheuon ni'r heulwen. Edrychais i ar gêm Ffrainc yn erbyn yr Eidal yn y prynhawn. Gobeithio bydd yr Eidalwyr wedi blino ddydd Sadwrn nesa a bydd Tom Prydie yn cael gêm ei fywyd.Es i â fy nghar i gael gwasanaeth a MoT a ches i sioc pan clywais ibyddai'r bil bron pedair can punt! Ces i ddwy deiar newydd a phethaueraill. Ro’n i’n meddwl am brynu cwch ond mae'r harbwr ym Mhorth Tywyn yn llawn o dywod a does dim cychod yn gallu dod mewn neu ma’s ar hyn o bryd!

Neges Gareth drwg
Annwyl Gyfeillion,
Ces i benwythnos brysur yr wythnos hon. Fore dydd Sadwrn aeth fy nheulu i i Hayes, Middlesex - parti mawr i ddathlu priodas aur fy mrawd a chwaer yng nghyfraith i. Cawson ni lawer o fwyd a diodydd yn ystod yr wythnos, mwynheuon ni i gyd yr wythnos, mwyaf oll fy ngwraig Jacqueline, i weld ei theulu hi gyda’i gilydd. Gyrron ni adref brynhawn dydd Sul ar ôl cael amser da iawn, ond roedden ni wedi blino’n lân pan gyrhaeddon ni gartref.

Neges Eileen
Sut mae bawbBeth am y rygbi penwythnos diwetha te? Sa i wedi gweld un gêm dda eto. Gobeithio bydd y gemau benwythnos nesa yn well. Mae’r "crocuses" yn dangos uwchben y ddaear yn ein gardd ni. Mae’r Gwanwyn yn dod yn bendant, o'r diwedd. Roedd y Gaeaf yn hir a chaled.

Neges Laura
Ces i benwythnos hyfryd! Es i i redeg fore dydd Sul ac aeth fy ngwr i i siopa i Tesco. Aethon ni ma's i ginio ac wedyn aeth fy ngwr i a Joe i weld gêm pêl-droed - ymlaciais i! Roedd dydd Sul yn 'Sul y Mamau' felly ces i anrhegion a photel o win. Es i ddim i unman ond gwnaeth fy ngŵr i’r smwddio achos ei fod e’n gwybod mod i'n casau smwddio!

No comments: