09/03/2010

Neges Scott
Ddydd Mawrth, es i i Plymouth i weld y gêm pêl droed rhwng Dinas Abertawe a Plymouth Argyle. Roedd hi’n daith hir, tua dau-cant milltir a phedair awr. Cyrhaeddon ni’r stadiwm tua hanner awr cyn dechrau’r gêm. Roedd hi’n gêm dda, ond yn anfodus, roedd hi’n gem gyfartal – un gôl yr un. Cyrhaeddon ni gatre tua hanner awr wedi dau yn y bore. Yn lwcus, ro’n i bant o’r gwaith yn y bore.
Ddydd Sul, rhedais i ym Mhontypridd, mewn râs deg milltir rhwng Trefforest a Rhydfelin. Roedd hi’n râs dda i fi - des i’n ugeinfed ma’s o tua pum-cant rhedwyr.
Yr wythnos hon, dw i’n meddwl falle gwylia i’r gêm rygbi rhwng Cymru a Ffrainc yn Abertawe, gyda ffrindiau o’r gwaith.

No comments: