09/03/2010

Neges arall wrth Scott
Ddydd Gwener diwetha, es i i Abertawe gyda ffrindiau i weld y gêm yn erbyn Ffrainc. Collodd Cymru eto wrth gwrs – mae mor siomedig i fod yn gefnogwr Cymru!
Ddydd Sadwrn, es i i Abertawe eto, y tro hwn i weld y gêm yn stadiwm y Liberty rhwng Abertawe a Peterbrorough. Ond, cyn i fi fynd, gwyliais i’r gêm ar y teledu rhwng Chelsea a Manchester City – gêm mwy diddorol achos y ‘siglo llaw’ rhwng John Terry a Wayne Bridge. Diwedd y stori nawr, dw i’n gobeithio.
Ddoe, es i i gyfarfod yng Nghaerdydd, ar bwys y stadiwm pêl droed newydd (yn lle Parc Ninian). Yn ystod yr egwyl ginio, prynais i esgidiau hyfforddi am Marathon Llundain. Saith wythnos i fynd nawr, ac mae’r hyfforddi’n tyfu bob wythnos.
Y penwythnos sy’n dod, bydda i’n rhedeg yn Hanner Marathon Llanelli –cyffrous iawn!

Neges Mike
Penwythnos dawel arall. Es i i edrych ar y Scarlets nos Wener, chwaeraeodd y Scarlets yn erbyn Ulster. Enillodd y Scarlets 25-8 ond rhaid i’r Scarlets ennill bron pob gêm y tymor ‘ma os dyn nhw eisiau cystadlu yng Nghwpan Heineken y flwyddyn nesaf.
Fore dydd Sadwrn es i i glwb ffitrwd ym Mharc Trostre a siopa gyda fy ngwraig fel arfer.
Roedd y tywydd yn oer, ond sych, dros y penwythnos, twtiais i yn yr ardd. Plannais i ychydig o lwynau rhosyn.
Brynhawn dydd Sul ymwelodd fy ail fab gyda'n hŵyr ni, cannwyll fy llygad!

No comments: