04/01/2010

Neges Neil
Nos Fawrth diwetha aeth Gareth (Drwg - ambell waith, Da – ambell waith arall); Mike, Allan (Ma's) a fi i'r Biddings am ddiodydd Nadolig a chinio! Roedd hi'n noson dda iawn. Wrth gwrs yfodd pawb ormod o win coch a chwrw ond cawson ni lot o hwyl.
Bore ma es i i Tesco am 6.30 o'r gloch i brynu fy mwyd ffres am Nadolig. Doedd dim ciwiau unrhywle! Ro'n i wedi cwpla siopa cyn 8 o'r gloch felly es i i Morrisons i gael brecwast ('da pwdin du ychwanegol).
Ar y ffordd adref, ces i broblem ‘da un o deiars y car! £125 - diolch yn fawr Mr Goodyear!
Blwyddyn newydd dda bawb! Gwela i chi ym mis Chwefror! Bydda i'n meddwl amdanoch chi yn India'r Gorllewin yn yr haul ar y traeth ac ati!

No comments: