07/01/2010

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, mae’r tywydd wedi bod yn oer iawn, dw i ddim wedi gwneud llawer, dim ond yfed a fwyta gormod, dw i’n meddwl fy mod i wedi dodi pwysau ‘ml’an. Bydd rhaid i fi weithio’n galed yn y gampfa i daflu pwys i ffwrdd o fy mola i. Dyna’r broblem ar ôl cael gormod o rialtwch dros y Nadolig.

Neges Mike
Wel dyna welliant, mae Nadolig wedi gorffen! Dwi’n credu bod yr ystyr y Nadolig wedi cael ei anghofio. Roedd yr siopau ar agor pob awr posibl, dim ond Dydd Nadolig roedd yr waled yn dawel! Hefyd, roedd pawb yn fy nheulu yn dost dros yr gwyliau. Roedd fy ngwraig, y mab ifanca a fi yn dost ar amserau gwahanol, fy ail fab, fy wŷr ac wyres hefyd. Er gwaetha’r ffliw, roedd y Nadolig a dathliadau’r Flwyddyn Newydd yn iawn. Cyn y Nadolig, aeth y Dosbarth Cymraeg i Gaulfields ym Mhorth Tywyn i gael bwyd i ddathlu diwedd y tymor a Nadolig. Roedd y pryd o fwyd yn dda iawn.
Hefyd cwrddais i â Neil, Gareth (Hanner Fford), Allan, yn y Biddings yn Lanelli er mwn cael cwrw a phryd o fwyd eto! Es i edrych ar y Scarlets dros y gwyliau, collon nhw i’r Gweilch, wnaeth y Gweilch ddim argraff arna i ond enillodd y Scarlets yn erbyn Dreigiaid Cas Newydd. Tymor caled i’r Scarlets.
Dwi’n edrych ymlaen at 2010 a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Neges Allan (ma's)
Hoffwn i ddymuno "Blwyddyn Newydd Dda" i bawb yn y dosbarth a gobeithio bod pawb wedi mwynhau y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Ces i Nadolig tawel ond prysur iawn. Ro'n i'n helpu fy nhad yng nghyfraith i fwydo ei geffylau allan yn y caeau ac yn y stablau. Ro'n i'n mynd bob bore a phob prynhawn yn ystod y tywydd oer iawn. Roedd hi'n waith caled ond fe wnes i fwynhau pob munud!Aethon ni i gartref ffrindiau ar nos Galan. Cawson ni bryd o fwyd blasus a digon o win i yfed. Chwaraeon ni "charades." Roedd hyn yn llawer o hwyl.Dwi'n edrych ymlaen at weld pawb yn y tymor newydd.

Neges Ian
Yn y prynhawn aethon ni i Abertawe -- fi, fy chwaer yng nghyfraith , nith, nai a fy nghefnder i ffair y glannau. Sglefriodd y plant ar y cylch . Eisteddais i yn y caffi ac yfais i cwpanaid o goffi poeth -- roedd h’in oer iawn.
Dydd Nadolig.
Yn y bore es i â`r ci am dro o gwmpas Pwll Cynffig ac wedyn es i i i dafarn Tywysog Cymru – roedd y lle yn orlawn. Roedd hi’n braf . Cinio da - wrth gwrs, a gormod i fwyta - wrth gwrs . Yn y nos chwaraeon ni gemau partion.
Gwyl San Steffan.
Codais i’n hwyr . Ges i ginio cyflym, ac es i i Benybont i edrych ar gem rygbi -- Penybont yn erbyn Penybont Athletau gem difflas --- un gol gosb yr un.Yn y nos es i i barti yn nhŷ fy nith . Digon o fwyd - digon o ddiod -- noson blesurus.

No comments: