13/01/2010

Neges Eileen
Sut mae bawb!
Blwyddyn newydd dda i chi gyd. Dw i'n meddwl ein bod wedi cael digon o eira ar hyn o bryd. Pwy sy'n siarad am "global warming" nawr? Gaethon ni amser da dros Nadolig, ac roedd Sion Corn yn garedig iawn i ni.
Aethon ni i Abertawe prynhawn yma, i brynu peiriant newydd i sychu'r dillad, achos mae'r hen beiriant wedi marw. Gweithiodd o am o leia deg mlynedd, chwarae teg iddo fe.

No comments: