29/01/2010

Neges Mike
Penwythnos dawel! Nos Fercher cawson ni “Nos Shiraz” yn y tŷ gwydr tu ôl i’r byngalo. Coginiodd fy ngwraig fwyd bys a bawd . Feddwais i ddim yn chwil, dim ond dwy botel o win yfais i. Fel arfer, ar fore dydd Sadwrn es i i’r gampfa ffitrwydd a siopa gyda fy ngwraig. Edrychais i ar Gwpan Heineken ar y teledu yn y prynhawn, ennillodd y Scarlets yn erbyn Brive, y tîm gyntaf Cymraeg i ennill yn erbyn Brive yn Ffrainc. Dathlais i yng nghlwb rygbi Porth Tywyn ar nos Sadwrn! I ginio dydd Sul, ymwelodd fy nhri mab â ni - neis iawn.

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Prynhawn dydd Sadwrn es i lan i weld ‘Y Reds’ yn erbyn ‘Bangor’, ym Mharc Stebonheath, enillodd ‘Y Reds’ 3-2. Nos Sadwrn aeth ein teulu ni i chwarae snwcer yn ‘Terry Griffiths’s Matchroom’. Chwaraeais i gyda fy mab yng nghyfraith a fy ŵyr i, enillodd fy mab yng nghyfraith a fy ŵyr i.
Mwynheuon ni chwarae gyda’n gilydd. Cawson ni bryd o fwyd yn y dre cyn i ni ddod adre mewn tacsi.

Neges Eileen
Sut mae bawb Mae'n flin 'da fi achos do'n i ddim yn gallu siarad ar y blog wythnos diwetha. Roedd problem gyda'r cyfrifiadur. Roedd en dost iawn, ond mae popeth yn iawn nawr. Does dim newyddion 'da fi ar hyn o bryd. Dw i'n edrych ymlaen at y "Sadwrn Siarad" yn Ysgol Y Strade.

Neges Scott
Yr wythnos diwetha, gwelais i’r gêm rygbi rhwng y Scarlets a Brive yng Nghwpan Ewrop. Es i i’r dafarn yn Felinfoel gyda ffrindiau i weld y gêm. Roedd hi’n gêm dda, enillodd y Scarlets 17-10. Canlyniad ardderchog!
Hefyd, Ddydd Sadwrn, cyn y gêm, ges i bryd o fwyd yn y dafarn – ‘Roast Carvery’. Roedd y bwyd yn fendigedig – blasus iawn.
Fore Dydd Sadwrn, es i i Rydaman i ymweld â fy mrawd a’i deulu e – ei wriag, merch a’i fachgen e. Ges i ddigon o hwyl, ac roedd y plant yn bihafio’n wych.
Ddydd Sul, rhedais i ddeg milltir ar y llwybr arfordirol rhwng Llanelli a Phorth Tywyn. Mae e’n rhan o fy hyfforddiant am Farathon Llundain ym mis Ebrill. Dw i’n gobeithio bydd digon o ymarfer nawr ac yn y misoedd nesaf i fy helpu i rhedeg ras dda.
Yr wythnos hon, dw i’n gobeithio rhedeg mwy ar fore Dydd Sadwrn a falle mynd mas i Abertawe gyda fy ffrindiau yn y nos.

Neges Laura
Aethon ni i'r traeth brynhawn Dydd Sadwrn achos roedd y tywydd mor braf. Aeth Joe(fy mab i) ar ei feic e ac es i â fy sbectol haul! Es i i redeg fore Dydd Sul ac roedd hi'n rhewi! Wedyn, aethon ni ma's i ginio at fy nhad i achos mae fy mhopty i wedi torri. Daeth y dyn o 'British Gas' i’w drwsio fe Ddydd Mawrth.

Neges Hayley
Dw i ddim yn dda iawn am adnewyddu’r blog ma!
Dw i wedi gweithio ymlaen bob nos yr wythnos yma.
Dylwn fod wedi adnewyddu’r blog penwythnos diwethaf, ond es i ymweld â Mam yn lle. Mi es allan nos Sul hefyd – mae’r dafarn leol yn cynnal Noson cwis bob nos Sul, felly penderfynais i a ffrind i mi wneud y cwis. Wnaethon ni ddim yn dda iawn mae arna i ofn.
Fe wnai wneud fy ngorau i ddod mewn i’r arfer o adnewyddu’r blog ar ôl y gwersi o nawr ymlaen.

Dwy neges wrth Neil
Heddi dw i yn Limon, Costa Rica. Gwelais i fwnciod, sloth, iguana a cayman a llawer o adar lliwgar. Dw i'n mynd ar daith tren a chwch camlas drwy gefn gwlad. Ddydd Gwener ro'n i yn Aruba ble es i i siopa ac ymlacio 'da chwrw oer. Echddoe es i ar y tren o Colon i Ddinas Panama. Ddoe aeth y llong drwy Gamlas Panama - diddorol iawn. Mae llawer o luniau 'da fi. Mae hi'n 81F a heulog ar hyn o bryd.
Ro'n i wedi meddwl galw yn Roatan yn Honduras ond do'n i ddim yn gallu achos bod gwyntoedd cryfion yno. O wel - Cozumel ym Mecsico fory!
Dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.

No comments: