08/01/2010

Neges Gareth newydd (drwg ambell waith)
Blwyddyn newydd dda i chi gyd.
Mwynheuais i’r Nadolig yn fawr iawn. Ar noswyl Nadolig aeth fy ngwraig a fi gyda'r teulu i gael cinio mewn tafarn lleol - The Cornish Arms. Roedd deuddeg ohonyn ni ond roedd y gwasanaeth yn araf iawn. Roedd y bwyd yn ardderchog diolch byth ac roedd digon ‘da ni i siarad amdano. Es i ar fy meic sawl gwaith pan oedd y tywydd yn braf. Beth bynnag do'ni ddim gallu mynd i barti benblwydd yn Alltwen cyn Nadolig achos roedd y tywydd yn ddrwg.
Aeth fy ngwraig a fi i dafarn Caulfields i gael cinio ar ddydd Calan.
Roedd yr awyrgylch yn dda iawn. Ces i ormod o gwrw.
Prynon ni sled pinc i’n hwyres a chafodd hi amser da yn yr eira yn y Parc Coffa ddoe.
Os mae'r tywydd yn well wythnos nesa gwela i bawb nos Iau.

Neges Caryl
Blwyddyn newydd dda i bawb!
Mae'n flin 'da fi am ganslo'r wers nos Iau diwetha ond roedd yr ysgol ar gau felly doedd dim dewis 'da fi. Gobeithio gweld pawb nos Iau nesa'.

Ces i amser neis dros y Nadolig. Un broblem fach - ces i wenwyn bwyd (food poisoning) brynhawn ddydd Nadolig. Dw i'n credu falle oedd problem 'da un o'r cregyn gleision (mussels) ces i i ginio dydd Nadolig. Ro'n i'n dost am cwpwl o rriau ac wedyn cysgu tan brynhawn Dydd San Steffan!
Ro'n i'n wedi gwella digon erbyn dydd Llun i fynd i siopa i Gaerdydd - i'r sêl yn John Lewis wrth gwrs.
Nos Galan es i ma's gyda ffrindiau i far coctêl newydd yng Nghaerfyrddin - £5.50 am un coctêl - ond ro'n nhw'n hyfryd. Wedyn aethon ni am fwyd Tseiniaidd a llawer o win/Tia Mari/Brandi/Sambucca ayb.

No comments: