21/01/2010

Neges Gareth (drwg)
Annwyl gyfeillion,
Mae’r tywydd tipyn bach yn well na wythnos diwetha,ond mae hi’n oer o hyd. Fydda i ddim yn rhedeg i brynu eli haul eto dw i’n credu. Dydd Sul es i i’r cyfarfod rasys yn Ffos Las gyda Jackie, fy ngwraig i, cawson ni brynhawn da, roedd yr haul ma’s drwy’r prynhawn. Enillon ni cwpwl o rasys, ond collwyr roedden ni ar ddiwedd y diwrnod. Gobeithio chawn ni ddim ragor o’r eira yr wythnos hon.

Neges Laura
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! Ges i amser da dros y Nadolig a daeth Sion Corn - diolch byth! Mwynheuais i Ddydd Nadolig ond bwytais i ormod fel arfer. Roedd yr eira yn wych a gaeth fy mab i lot o hwyl yn chwarae tu fa’s. Gwela i i chi Nos Iau.

Neges Scott
Yr wythnos diwetha, ges i gyfarfod hir yn y gwaith trwy Dydd Iau. Roedd e’n eitha pwysig ond eitha diflas!
Ar Ddyd Sul es i i redeg tu fa’s am y tro cyntaf eleni, achos yr iâ ac eira diweddar. Rhedais i’n eitha da, a dw i’n edrych ymlaen at y tymor rhedeg cyn y marathon nawr.
Hefyd, ar Ddydd Sul, gwelais i’r gêm rygbi ar y teledu rhwng Y Scarlets â Gwyddelod Llundain yn Cwpan Heineken. Roedd hi’n gêm dda, gyda sgôr dda i’r Scarlets. Enillon nhw 31 pwynt i 22. Gwych!
Nos Sadwrn, es i i’r dafarn yn Felinfoel i ymlacio, ond do’n i ddim yn yfed cwrw. Achos Nos Galan drwm yn diweddar, dw i bant o’r cwrw am sbel, felly yfais i ddigon o ddiod ffrwyth trwy’r nos – diflas ond call.
Yr wythnos hon, dw i’n credu gwnaf i fwy o’r un peth fel yr wythnos diwetha – gan gynnwys mwy o ymlacio!

Neges Mike
Gwell hwyr na hwyrach! Dydd Gwener diwetha a Nos Wener ro’n ni gofalu am ein wyrion. Aeth fy mab a merch yng nghyfraith i Glwb Pentre Nicholas. Neis!
Ar fore dydd Sadwrn es i i gampfa MW ym Mharc Trostre i gadw’n heini.
Yn y prynhawn edrychais i ar Gwpan Heineken ar y teledu. Roedd y Gweilch yn chawarae yn erbyn tîm Ffrangeg, oo la la!, doedd dim ymateb da i’r Gweilch. Roedd Gareth Newydd (ambell waith drwg) yn sâl fel ci dwi’n credu!!! Prynhawn dydd Sul es i a fy mab ifanca i Barc Y Scarlets i weld Y Scarlets yn erbyn Gwyddelod Llundain. Roedd y gêm yn gyffrous ac enillodd Y Scarlets 31-22. Nos Sul aethon ni i Dafarn Pemberton i ddathlu’r gêm.

No comments: