12/10/2011

Newyddion Victoria
Dwi’n gobeithio bod yn well erbyn nos Iau, ond dw i ddim yn siwr. Roedd rhaid i fi fynd i’r ysbyty nos Sadwrn diwetha gyda migraine / poen yng nghefn fy mhen i. Gwnaeth y meddygon llawer o brofion, a rhoi painkillers cryf i fi a dwi’n lwcus taw dim ond sinusitis difrifol oedd e.
Dw i’n teimlo tamiad bach yn well nawr, ond ddim yn iawn. Mae angen 2 wythnos yn yr haul rhywle arna i!


Darn Laura
Gaethon ni ein priodas yn Las Vegas. Hedfanon ni 'na tri dydd cyn y briodas i gael y drwydded. Daeth fy nhad a fy llysfam i gyda ni i fod ein tystion. Arhoson ni yng Ngwesty Bellagio ac roedd e'n ffantastig! Roedd y tywydd yn boeth iawn ond roedd pobman wedi'i aerdymheru. Priodon ni yng Nghapel Bach Gwyn ac roedd y gwasanaeth yn deimladwy iawn. Cafodd y briodas ei dangos ar y we felly gwyliodd ein ffrindiau a teulu gartre. Ar ol i ni briodi gaethon ni dro o'r 'Strip' mewn limo. Roedd e'n ddiwrnod hyfryd!

No comments: