11/10/2011



Darn Neil

Mis: mis Hydref
Blwyddyn: 2010
Teitl: 'Take Me Out'

Ym mis Medi 2010 (ar y ffon ac yng Nghaerdydd) ces i gyfweliad ar gyfer y rhaglen deledu 'Take Me Out'. Un dydd Mercher ym mis Medi ffonion nhw fi i ofyn os gallan nhw ddod i ffilmio y dydd nesa.

Cwrddon ni yn y clwb golff y bore nesa a ffilmion nhw fi, Gareth a Mike yn chwarae golff i lawr y ffairffordd/twll cyntaf. Wedyn aethon ni i borthladd Porth Tywyn i ffilmio 'na. O'r diwedd, ffilmion ni yn fy nhy.

Ro'n ni'n ffilmio am naw awr am glip ffilm 30 eiliad yn y rhaglen.

Cafodd y rhaglen ei darlledu ym mis Chwefror 2011.

No comments: