11/10/2011

Darn Julie
Atgofion o fy swydd gyntaf
Roedd fy swydd gyntaf mewn siop wlân yn yr Alban
Ro'n i wedi gorffen astudio Ffiseg feddygol yn y brifysgol ac ro'n i eisiau gwneud gwaith hawdd. Roedd fy mhennaeth o'r Almaen ac roedd hi’n ofnadwy.
Roedd yn rhaid i ni wau o leiaf tair eitem o ddillad bob mis a dim ond y rhain cawson ni ganiatad i’w gwisgo yn y gwaith.
Roedd y diwrnod yn ymddangos yn hir ac roedd y swydd yn ddiflas iawn. Roedd y cwsmeriaid yn gas ac yn arw. Ar ôl un flwyddyn penderfynais i fynd yn ôl i'r coleg i hyfforddi i addysgu mathemateg. Roedd hyn yn llawer haws.

No comments: