19/10/2011

Darn Gareth
Ces i fy ngeni yn Stryd Buddelph yn ardal ‘Y Doc Newydd’, Llanelli - yn nhŷ fy modryb i - chwaer fy mam. Fy mam oedd yr un ifanca o un ar ddeg o frodyr a chwiorydd - roeddwn nhw i gyd yn gofalu amdani hi wrth gwrs. Ro’n i’n byw yn ‘Y Doc Newydd’ am bum mlynedd cyn symud i Lwynhendy. Ro’n i’n byw ar bwys fferm yn Llwynhendy, ro’n i’n mwynhau chwarae ar y fferm pan ro’n i’n ifanc.


Darn Neil
Wel, ces i fy ngeni a magu ym Mirmingham. Mae dau tîm pel-droed ‘na - Aston Villa ac un arall. Ro'n i'n arfer mynd i Barc Villa i edrych arnyn nhw yn chwarae. Fy atgofion cyntaf ym Mirmingham oedd fi a mam yn mynd i'r swyddfa drws nesa i'r orsaf tram. Gadawais i Firmingham ym 1963, es i yn ôl cwpwl o weithiau ond nawr dw i'n hapus iawn i deithio drwodd heb yn stopio.


Darn Mike
Ces i fy ngeni yn Llanerch, ardal Llanelli, ar bwys Parc Howard. Ces i fy magu mewn tŷ cyngor gyda fy rhieni a thad-cu a mam-gu, ym Mrynmelyn Avenue. Es i i ysgol Hen Ffordd pan o’n i’n ifanc cyn symud i Lwynhendy yn wyth oed. Dw i’n.cofio Llanerch yn dda, atgofion hapus. Mwynheuais i chwarae rygbi, pêl-droed a griced ar y cae mawr ar bwys yr afon Lliedi.
Yn y dyddiau hynny roedd yr holl deulu yn byw yn yr ardal. Yn y dyddiau hyn, mae’r teulu yn symud i bobman. Trist!


Newyddion Tony
Ddydd Gwener chwaerais i golf yn nglwb golff Machynys gyda “Hen fechgyn Ysgol Tregwyr” ond chwaerais i fel twpsyn ac ennill dim byd!
Ddydd Sadwrn oedd y dydd mwyaf dirywiol yn fy mywyd ar ôl i Gymru golli yn erbyn Ffrainc yng Nhgwpan y Byd!
Yn y prynhawn gwelais i glwb rygbi Cydweli yn ennill y gêm yn erbyn clwb rygbi Feleinfoel ym Mharc Stevens, Cydweli
Ddydd Sul chwarais i golf yn nglwb golff Ashburnham ym Mhorth Tywyn ac roedd y tywydd yn braf iawn.
Yn y prynhawn torrais i’r gwair yn yr ardd.


Darn Julie
Ces i fy ngeni yn Llanelli ond yn gadael yr ardal pan o'n i'n chwe mis oed. Nid yw ardal Llanelli lle y cefais fy ngeni yn grand iawn o gwbl, ond dwi wastad yn teimlo fel ei fod yn gartref. Mae pob un fy mherthnasau yn byw o fewn ychydig o strydoedd o’i gilydd. Ces i fy magu yn Affrica a Seland Newydd, ond bob tair blynedd ro'n ni'n teithio yn ôl i ymweld â’n teulu yn Llanelli.

No comments: