04/10/2011

Dyddiau Ysgol Julie
Mynychais i lawer of ysgolion yn ystod fy ieuenctid i. Un ohonyn nhw dwi'n gallu cofio’n dda iawn. Roedd yn ysgol unigryw yn y wlad – roedd yr ysgol yn cynnig help i fyfyrwyr oedd gyda rhieni'n 'Political Activists'. Roedd hi’n ysgol breswyl, dim ond naw oed o'n i'r adeg 'ny, ro'n i'n anhapus iawn.. Dwi'n gallu cofio unwaith, ar ôl I fi gael fy nghosbi achos mod i wedi mynd ar goll ar y ffordd i fy ngwers gwaith coed, ro'n i'n teimlio mor drist felly penderfynais i y byddwn i’n rhedeg bant. Roedd yr ysgol wedi’i lleoli ym mynyddoedd Drakensberg, cerddais i hanner ffordd lan y rhiw gyntaf a dechreuais i fy nhaith hir lan y mynydd. Ar ôl un awr a hanner ro'n i'n ofnus ac hefyd, roedd eisiau bwyd arna i, felly des i yn ôl i'r llety. Ro'n i'n siomedig iawn achos doedd neb wedi sylwi mod i wedi diflannu.

No comments: