08/06/2010

Newyddion Mike
Roedd y hanner tymor yn neis, roedd y tywydd yn wych a mwynheuon ni BBQ ar y “deck” dros y penwythnos. Es i i glwb ffitrwd llawer gwaith a chwaraeais i yng nghlwb golff Pentre Nicholas dros y gwyliau. Gan fod y tywydd yn dda gweithias i yn yr ardd a thorais i’r lawnt tu ôl ac o flaen y byngalo. Ddydd Llun aethon ni i Gaerfyrddin i weld siopau newydd ‘na, roedd darnau o Gaerfyrddyn wedi’u hailadeiladu, mae’n edrych yn dda. Roedd hanner tymor yn dda ag eithro dydd Sadwrn - es i i Gaerdydd i weld Cymru’n chwarae rygbi yn erbyn De Affrica. Unwaith eto roedd Cymru’n siomedig, a chollon nhw’r gêm. Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Seland Newydd nesa’ – Duw helpon nhw!

Newyddion Gareth (car newydd)
Annwyl Gyfeillion,
Mae’r tywydd wedi dod o’r diwedd, mae hi wedi bod yn araf iawn yn dod. Gweithiais i yn yr ardd fore dydd Sul a bore dydd Llun, dim ond tacluso a thynnu’r chwyn bant. Cawson ni newyddion da dros y penwythnos diwetha, dwedodd ein merch ni, Angela, bod hi’n disgwyl babi ym mis Hydref. Dyn ni i gyd yn edrych ymlaen at yr ychwanegaid i’r teulu. Mae ein hŵyr ni Rio yn disgwyl ymlaen at ei fam e’n cael babi, mae e eisiau brawd, ond dw i’n siwr bydd e’n hapus iawn gyda chwaer hefyd. Dw i wedi chwarae llawer o golff dros y hanner tymor gyda fy ffrindiau a fy ngwraig i Jackie.

No comments: