18/06/2010

Newyddion Gareth (newydd)
Aeth fy ngwraig a fi i Gastell nedd ddydd Sadwrn diwetha i weld fy nghefnither a'i phartner. Teithion ni ar y tren felly cawson ni ddigon i yfed gyda’n pryd o fwyd. Daethon ni nôl i Borth Tywyn am hanner awr wedi wyth. Cawson ni amser bendigedig.
Ddydd Sul ymwelon ni â’n merch hena, ei phartner a'n hwyrion.
Roedd y tywydd yn gymylog felly aethon ni â nhw i'r Parc Coffa.
Wedyn cawson ni bryd o fwyd gartre cyn iddyn nhw fynd nôl i Sili.

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Wel mae’r tywydd lan a lawr ar hyn o bryd, dyn ni ddim yn gwybod beth mae hi’n mynd i wneud o ddydd i dydd. Dw i wedi chwarae golff tair gwaith ers dydd Gwener, felly dydy’r tywydd ddim wedi bod cynddrwg â hynny. Mae popeth yn tyfu yn yr ardd nawr, dw i wedi cael llawer o sibwns a chiwcymer.
Bydd y tatws a ffa yn dringo nesa ac wedyn moron a betys os bydda i’n lwcus ha! ha!. Wel dyna i gyd am nawr.

No comments: