10/06/2010

Newyddion Gareth (newydd ond yn ddrwg yn aml)
Es i ar fy meic llawer gwaith dros y penwythnos diwetha. Roedd y tywydd yn braf iawn. Ceisiais i bysgota ond roedd y pysgod yn nofio amdana i!
Daeth fy merch ifanca, Bethan a fy wyrion ,Haf ac Osian, i gael pryd o fwyd gyda ni ddydd Sul achos roedd Simon, ein mab yng nghyfraith, yn gweithio. Mae Haf yn dwlu ar berfformio fel athrawes. Dw i'n siwr bod hi'n gwella fy Ngymraeg.
Edrychais i ar gêm Cymru yn erbyn De Africa ddydd Sadwrn. Ces i siom arall. Ro'n nhw'n chwarae’n iawn am tua tri deg munud. Sa i'n edrych ymlaen at y daith i Seland Newydd. Yn ffodus mae Morgannwg yn chwarae criced da ar hyn o bryd.

Newyddion Allan (ma's)
Annwyl Gyfeillion,
Cawson ni amser arbennig yng Ngwbert wythnos diwethaf. Arhoson ni yng Ngwesty'r Cliff am ddwy noson. Pryd cyrhaeddon ni brynhawn Dydd Iau roedd hi'n bwrw glaw felly aethon ni i'r spa am dair awr. Pan aethon ni 'nôl i'r ystafell roedd hi'n heulog. Roedd hi mor braf cawson ni ein pryd bwyd tu allan ar y teras.

No comments: