29/06/2010

Newyddion Gareth (drwg ond yn dda ar hyn o bryd)
Annwyl Gyfeillion,
Wel mae’r wythnos wedi mynd yn gyflym iawn, sa i wedi cael digon o amser i wneud pethau ro’n i’n moyn ei gwneud cyn y penwythnos, efallai bues i’n chwarae gormod o golff dros yr wythnos diwetha?
Ddydd Iau diwetha aeth fy ngwraig a fi i weld ein hŵyr ni, Rio, yn ysgol St. Michael’s yn niwrnod chwaraeon yr ysgol. Enillodd e lawer o rasys - mae e’n gyflym iawn. Bydd e siŵr o lwyddo mewn chwaraeon o ryw fath yn y dyfodol, yn fy marn i. Y peth pwysig yw dw i wedi gwneud fy ngwaith cartref, Ha! Ha!

No comments: