28/06/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Y peth cyntaf, dw i eisiau dweud diolch i Caryl fy nhiwtor i am fod mor amyneddgar gyda fi yn y dosbarth, achos nos Wener diwetha enillais i wobr Dysgwr y Flwyddyn yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli. Dw i hefyd eisiau rhoi fy llongyfarchiadau i Bethan, cafodd hi’r wobr am Diwtor y Flwyddyn. Cafodd y gwobrau eu cyflwyno i’r enillwyr ar y noson gan yr Aelod Seneddol Nia Griffiths. Ces i fy enwebu gan Caryl fy nhiwtor i. Mwynheuais i’r wythnos gyda fy ngwraig Jackie, fy nhiwtor Caryl, Bethan a’i gŵr hi Carwyn.
Dw i wedi chwarae llawer o golff dros yr wythnos diwetha, dw i ddim wedi cael llawer o amser i ymarfer fy Nghymraeg, bydd rhaid i fi ddarganfod amser o rhywle.

Newyddion Mike
Beth am y tywydd! Penwythnos hyfryd - rhy dwym i weithio yn yr ardd, ychydig iawn o chwynnu a defnyddiais i’r biben ar y blodau, does dim dwywaith amdani, maen nhw eisiau’r glaw. Es i i gadw’n heini yng nghlwb DW dros y penwythnos a phrynhawn dydd Sadwrn aeth fy wraig a fi â fy wyrion i barti plant i ddathlu diwrnod y lluoedd arfog ym Mhorth Tywyn.

No comments: