16/04/2011



Noson ma's

Cawson ni noson hyfryd yn Nhafarn Y Bryngwyn nos Iau diwetha'. Fel dych chi'n gallu gweld o'r lluniau - ffeindiodd Mike ffrind newydd!




Roedd y bwyd yn ardderchog - ces i hwyaden, sglodion a saws Hoi Sin a dyma beth gaeth pawb arall:-

Allan a Bethan - stecen gyda madarch a garlleg

Gareth - stecen a sglodion

Mike - cyw iâr Efrog newydd a sglodion

Victoria - cyw iâr gyda mêl a sglodion


Doedd dim lle 'da fi i bwdin ond gaeth Mike, Gareth a Victoria bwdin. Gaeth pawb ddigon o gwrw a gwin hefyd! Ni oedd y ford ola' i adael - roedd y ty bwyta'n wag pan gadawon ni.

No comments: