20/04/2011

Newyddion Mike
Dechreuodd y penwythnos Nos Iau gyda chinio’r dosbarth Cymraeg yn Nhafarn Bryngwyn ym Mhwll. Roedd y bwyd yn ardderchog fel arfer. Ddaeth dim ond pedwar myfyriwr a dau diwtor ond cawson ni amser da.
Chwaraeais i golf ddydd Gwener gyda Gareth ac es i i Barc y Scarlets Nos Sadwrn i weld Y Scarlets yn erbyn Munster. Doedd y gêm ddim yn dda a chollodd y Scarlets 6-13. Dylai’r Scarlets fod wedi ennill y gêm hon. Mae angen blaenwyr newydd gyda tân yn eu bola ar Y Scarlets!
Torrais i’r lawntiau tu ôl ac o flaen y byngalo dros y penwythnos, gan fod y tywydd yn dda.

No comments: