06/04/2011

Newyddion Caryl Dw i'n edrych ymalen at weld pawb yn nhafarn y Bryngwyn ar 14 Ebrill - bydd hi'n hyfryd cael sgwrs a dal lan gyda newyddion pawb. Dw i nôl yn y gwaith llawn amser nawr ac mae popeth yn mynd yn iawn ar hyn o bryd. Nos Sadwrn diwetha, es i i noson i godi arian i Fand Porth Tywyn yn y neuadd ym Mhorth Tywyn. Cawson ni bryd o fwyd 3 chwrs ac wedyn twmpath (dawnsio gwerin). Ro'n i wedi blino'r diwrnod nesa' ac roedd pen tost ofnadw 'da fi - gormod o win siwr o fod!!!! Mae Gareth yn mynd i'r Cwrs Pasg yn Abertawe, 18 - 20 Ebrill - beth am bawb arall? Mae'r Cwrs Pasg yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg a chwrdd a llawer o ddysgwyr eraill.

No comments: