06/04/2011

Newyddion Gareth (drwg) Annwyl Gyfeillion, Ces i benwythnos tawel yr wythnos hon. Fore dydd Sul aeth fy ngwraig a fi i weld ein hŵyr ni’n chwarae pêl-droed dros Y Reds yn erbyn Abertawe. Cafodd y gêm ei chwarae ym Mhenygaer. Roedd cwpwl o blant talentog ar y cae. 3-3 roedd y sgôr yn y pen draw - canlyniad iawn yn fy marn i. Chwaraeais i gêm o golff fore dydd Llun gyda Neil Price a Neil Blower yn Abaty Glyn.

No comments: