30/06/2010

Newyddion Gareth (garlleg)
Beth am y tywydd yr haf yma 'te ? Dw i'n dwlu ar yr haulwen a'r gwres.
Aeth fy ngwraig a fi ar ein beiciau i Gefn Sidan fore dydd Sul.
Wedyn cawson ni BBQ yn yr ardd gyda'n teulu.
Ddigwyddodd dim arall cyffrous dros penwythnos diwetha. Gwelais i uchafbwyntiau ail brawf Cymru yn erbyn Seland Newydd ar y teledu. Unwaith eto gwaneth Cymru ormod o gamgymeriadau. Dw i'n meddwl bydd De Affrica yn ennill yn eu prawf nesa.

29/06/2010

Newyddion Gareth (drwg ond yn dda ar hyn o bryd)
Annwyl Gyfeillion,
Wel mae’r wythnos wedi mynd yn gyflym iawn, sa i wedi cael digon o amser i wneud pethau ro’n i’n moyn ei gwneud cyn y penwythnos, efallai bues i’n chwarae gormod o golff dros yr wythnos diwetha?
Ddydd Iau diwetha aeth fy ngwraig a fi i weld ein hŵyr ni, Rio, yn ysgol St. Michael’s yn niwrnod chwaraeon yr ysgol. Enillodd e lawer o rasys - mae e’n gyflym iawn. Bydd e siŵr o lwyddo mewn chwaraeon o ryw fath yn y dyfodol, yn fy marn i. Y peth pwysig yw dw i wedi gwneud fy ngwaith cartref, Ha! Ha!

28/06/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Y peth cyntaf, dw i eisiau dweud diolch i Caryl fy nhiwtor i am fod mor amyneddgar gyda fi yn y dosbarth, achos nos Wener diwetha enillais i wobr Dysgwr y Flwyddyn yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli. Dw i hefyd eisiau rhoi fy llongyfarchiadau i Bethan, cafodd hi’r wobr am Diwtor y Flwyddyn. Cafodd y gwobrau eu cyflwyno i’r enillwyr ar y noson gan yr Aelod Seneddol Nia Griffiths. Ces i fy enwebu gan Caryl fy nhiwtor i. Mwynheuais i’r wythnos gyda fy ngwraig Jackie, fy nhiwtor Caryl, Bethan a’i gŵr hi Carwyn.
Dw i wedi chwarae llawer o golff dros yr wythnos diwetha, dw i ddim wedi cael llawer o amser i ymarfer fy Nghymraeg, bydd rhaid i fi ddarganfod amser o rhywle.

Newyddion Mike
Beth am y tywydd! Penwythnos hyfryd - rhy dwym i weithio yn yr ardd, ychydig iawn o chwynnu a defnyddiais i’r biben ar y blodau, does dim dwywaith amdani, maen nhw eisiau’r glaw. Es i i gadw’n heini yng nghlwb DW dros y penwythnos a phrynhawn dydd Sadwrn aeth fy wraig a fi â fy wyrion i barti plant i ddathlu diwrnod y lluoedd arfog ym Mhorth Tywyn.

Llongyfarchiadau i Gareth a Bethan!
Yn noson wobrwyo Dysgwyr Sir Gâr, enillodd Gareth wobr Dysgwr y Flwyddyn ac Bethan wobr Tiwtor y Flwyddyn.
Llongyfarchiadau i'r ddau ohonyn nhw ar eu llwyddiant!

24/06/2010

Newyddion Gareth (newydd)
Mae hi wedi bod yn amser prysur yr wythnos diwetha. Aeth fy ngwraig a fi gyda ffrindiau nos Iau diwetha i Westy Parc y Starde i weld darlleniad o'r ddrama ' Buggerall' gan awdur lleol am i roi help i elusen Ray Gravelle. Roedd hi’n noson ardderchog.
Ddydd Llun es i i Sili eto i ofalu am fy wyrion achos bod fy merch i wedi mynd i Amsterdam ar fusnes. Es i i Ddiwrnod Chwareon yr ysgol a gwelais i Callum yn ennill y rhes 'sprint'! Des i nôl adre ddoe ar y tren.
Daeth fy llysfab a'i deulu â chi newydd ddoe i aros yng Ngwesty’r Neptune ym Mhorth Tywyn am bedwar diwrnod. Daethon nhw am pryd o fwyd gyda ni.
Newyddion Mike
Penwythnos dawel. Fore dydd Sadwrn es i i’r clwb ffitrwd a siopau ym Mharc Trostre fel arfer. Edrychais i ddim ar y teledu, chwaraeodd Cymru rygbi yn erbyn Seland Newydd. Roedd ofn arna i, siwr o fod, roedd brwydr fawr ‘da Cymru. Bydd yr ail brawf ddydd Sadwrn nesa, caewch eu llygad! Hoffwn i feddwl bydd Cymru’n chwarae’n dda ond …..

18/06/2010

Newyddion Gareth (newydd)
Aeth fy ngwraig a fi i Gastell nedd ddydd Sadwrn diwetha i weld fy nghefnither a'i phartner. Teithion ni ar y tren felly cawson ni ddigon i yfed gyda’n pryd o fwyd. Daethon ni nôl i Borth Tywyn am hanner awr wedi wyth. Cawson ni amser bendigedig.
Ddydd Sul ymwelon ni â’n merch hena, ei phartner a'n hwyrion.
Roedd y tywydd yn gymylog felly aethon ni â nhw i'r Parc Coffa.
Wedyn cawson ni bryd o fwyd gartre cyn iddyn nhw fynd nôl i Sili.

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Wel mae’r tywydd lan a lawr ar hyn o bryd, dyn ni ddim yn gwybod beth mae hi’n mynd i wneud o ddydd i dydd. Dw i wedi chwarae golff tair gwaith ers dydd Gwener, felly dydy’r tywydd ddim wedi bod cynddrwg â hynny. Mae popeth yn tyfu yn yr ardd nawr, dw i wedi cael llawer o sibwns a chiwcymer.
Bydd y tatws a ffa yn dringo nesa ac wedyn moron a betys os bydda i’n lwcus ha! ha!. Wel dyna i gyd am nawr.