06/06/2011

Newyddion Mike
Wythnos brysur. Er dw i wedi ymddeol does dim amser ‘da fi! Chwarae golff, gofalu am fy wyrion, mynd i gadw’n heini - diolch byth dw i’n ddim yn gweithio. Mae swydd newydd ‘da fi (rhan amser) yn ogystal â siopa gyda fy ngwraig (swydd llawn amser!). Y swydd sy ‘da fi yw ysgifennydd Y Lleng Prydeinig (RBL) ym Mhorth Tywyn - gobeithio bydda i’n gwneud y swydd ddim ond am dri mis. Bydd Wembley dan ei sang ddydd Llun pan bydd clwb pêl droed Abertawe yn chwarae yn erbyn Reading, y wobr, chwarae yn y gyngrair gyntaf, a naw deg miliwn punt!

Newyddion Gareth (golff)
Annwyl Gyfeillion,
Dw i wedi cael wythnos brysur iawn, ond mae hi wedi bod yn bleserus. Chwaraeais i golff gyda ffrindiau fore dydd Llun, fore dydd Mercher a fore dydd Gwener - gyda Jackie, Richard ein mab ifanca ni, a Rio ein hŵyr ni ddwywaith. Gofalon ni am yr ŵyr Rocco ddwywaith. Ro’n ni’n falch i weld y penwythnos a dweud y gwir i gael tamaid bach o dawelwch.

No comments: