22/06/2011

Hanes gwyliau Gareth (drwg/golff) pan oedd e'n blentyn
Mae fy nhiwtor i – Caryl, wedi gofyn i’r dosbarth i gyd i ysgrifennu rhywbeth am ein gwyliau ni pan ro’n ni’n blant.
Wel, do’n i ddim yn mynd yn bell fel arfer, dim ond dyddiau ma’s i’r traeth gyda’r ysgol sul, neu glwb ble roedd fy nhad i’n aelod. Ond y lle ro’n i’n cofio mynd iddo’n aml roedd lawr y Bwlch (Bwlch y Gwynt) ar bwys y môr ym Machynys am bicnicau. Roedd pob teulu yn pigo cocos ac wedyn berwi nhw mewn sosbenni ro’n nhw wedi dod â ar dân gwersyll ro’n nhw wedi dechrau. Bwyta cocos gyda bara cartre - hyfryd iawn. Roedd y Bwlch yn boblogaidd iawn y pryd hwnnw. Mae’r cwrs golff yn y fan a’r lle nawr.

No comments: