28/06/2011

Cyngor Mike ar gyfer rhywun yn meddwl am ddysgu Cymraeg
Dylwn i fod wedi dysgu Cymraeg pan o’n i’n blentyn - ‘sai fe wedi bod yn fwy hawdd, dw i’n meddwl. Doedd fy wyrion ddim yn siarad Cymraeg tair blynedd yn ôl ond nawr mae fy wyres yn rhugl ac yn siarad yn gyflym, dim ond chwe oed yw hi ac mae hi’n mynd i’r ysgol Gymraeg. Dylai fy rhieni fod wedi siarad Cymraeg â fi pan o’n i’n ifanc. Roedd y ddau yn siarad Cymraeg ond es i i’r ysgol Saesneg! Dylech chi gael eich trochi yn Gymraeg – dyma’r ffordd orau i siarad Cymraeg. Mae darllen cylchgrawn fel Lingo yn dda achos dych chi’n dethol os dych chi’n dechrau dysgu - darnau fwy profiadol neu brofiadol iawn.
Hefyd mae llyfrau gan Bob Eynon yn dda achos mae geiradur bach ar ddiwedd y stori i’ch helpu chi. Mae cwrs preswyl yn wych - a dim siarad yn Saesneg! Suddo neu nofio! Hefyd, dylech chi fynd i nosweithiau cymdeithasol i siarad Cymraeg dros peint. (Gwell byth, sawl peint)!

No comments: