30/03/2011

Newyddion Mike Penwythnos brysur. Unwaith eto, chwaraeais i golff ddydd Gwener yng Nghlyn Abbey ac roedd y tywydd yn ardderchog ond doedd fy ngêm ddim yn ardderchog! Ddydd Sadwrn bues i yn y clwb ffitrwydd am wyth o’r gloch, siopa gyda fy nghwraig am ddeg o’gloch, ym Mhentre Nicholas, yn y prynhawn ar y safle gyrru cyhoeddus gyda fy mab ifanca Warren, trimiais i goeden tua ôl i’r bungalow gyda llif cadwyn gyda fy mab hena Paul, es i am gwpl o beints yn y nos - phew! Daeth fy wyres hena, Alicia i ginio ddydd Sul. Nos Sul dw i’n mynd i Barc y Scarlets i weld y Scarlets yn erbyn Treviso. Gwelais i Caryl wythnos diwetha a dwedodd Caryl “Cofia fi at bawb, gwela i chi ar ôl y Pasg”.

No comments: