01/03/2011

Newyddion Gareth (drwg)

Annwyl Gyfeillion,

Mae’n Ddydd Gŵyl Dewi heddiw, gobeithio bod pobl wedi gwisgo cenhinen neu daffodil. Wel, mae mis Chwefror wedi cwpla - diolch byth. Allwn ni nawr disgwyl ymlaen at y gwanwyn, gobeithio bydd y tywydd yn dechrau gwellhau – mae’r ddau mis diwetha wedi bod yn ofnadwy yn fy marn i.

Es i i dŷ bwyta Altalia nos Gwener diwetha, noswaith sgwrsio gyda Menter Cwm Gwendraeth -roedd saith ohonon ni yna.Trefnais i gwrdd â Neil Price, camgymeriad mawr! Cawson ni noson dda iawn ond, cyrhaeddais i fy nhŷ i am chwarter i ddeuddeg. Aethon ni i Wetherspoons ar ôl Altalia - cwrddon ni â fy mrawd yng nghyfraith a cwpl o ffrindiau ro’n i wedi gweithio gyda blynyddoedd yn ôl.

Roedd tamaid bach o ben tost gyda fi fore dydd Iau, dw i byth yn dysgu gwers. Dim eto tan yr amser nesaf!!

No comments: