06/01/2011

Newyddion Laura

Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Ges i Nadolig hyfryd ond dw i nôl yn y gwaith 'fory yn anffodus! Daeth fy mrawd adre Noswyl Nadolig ac arhosodd e gyda ni. Mae fy ngwr i wedi bod yn dost dros y gwyliau - roedd y ffliw arno fe, ac roedd rhaid i fi goginio cinio Nadolig! Roedd popeth yn iawn diolch byth. Roedd pump ohonon ni i ginio Dydd Nadolig a 'Boxing Day'. Gaeth Joe Wii i Nadolig a llawer o anrhegion arall. Roedd e mor gyffrous! Nos Galan aethon ni i Frankie a Benny’s am bryd o fwyd ond ro ni'n adre erbyn 7 o'r gloch. Bwytais i ormod dros y Nadolig felly mae'r ddiet yn dechrau wythnos nesa.

No comments: