04/01/2011










Mojitos a Barbeciw Dydd Nadolig
Cawson ni ginio Nadolig gwahanol eleni - barbeciw! Emyr oedd yn edrych ar ôl y bar a dych chi'n gallu gweld bod yr era'n ddefnyddiol iawn i gadw'r mojitos yn oer! Coginiodd Aled bysgod ar y barbeciw ond Dyfrig wnaeth eu paratoi (gyda fi'n mwynhau coctêl ar yr un pryd)! Roedd Aled hefyd wedi gwneud pwdin Nadolig - roedd e'n hyfryd.
Wrth gwrs rhaid cael coginio twrci rhywbryd dros y Nadolig a cawson ni'n twrci noswyl Nadolig.
Dw i'n gwella'n dda nawr ar ôl y llawdriniaeth ond ddim yn gallu gyrru 'to na codi unrywbeth trwm. Chwarae teg, mae Dyfrig wedi bod yn brysur iawn yn gwnud y gwaith ty ac yn mynd â fi ma's dros y Nadolig. Aethon ni i'r Pantomeim yn Abertawe'r wythnos diwetha a ma's i gael cyri gyda ffrindiau Nos Galan.

No comments: