07/12/2010

Newyddion Gareth (drwg ond da am fynd i'r Sadwrn Siarad)!

Annwyl Gyfeillion,

Ddydd Sadwrn diwetha es i i’r ‘Sadwrn Siarad’ ym Mhrifysgol Abertawe. Iona oedd enw ein tiwtor ni, roedd saith ohonon ni yn y dosbarth Canolradd. Roedd y dydd yn ddiddorol iawn, cawson ni ddigon o waith i wneud trwy’r dydd, ond doedd e ddim yn rhy anodd a dweud y gwir. Cawson ni damaid bach o hwyl hefyd. Dw i’n credu mwynheuodd pawb y dydd.

No comments: