02/12/2010

Newyddion Allan (ma's)
Sut mae bawb,
Mae newyddion da gyda fi. Dechreuais i swydd llawn amser yn ysgol y Strade Ddydd Llun. Dw i'n gweithio fel technegydd gwyddoniaeth yn y bore a thechnegydd technoleg yn y prynhawn. Mae dyn sy'n gweithio yn yr adran dechnoleg yn ymddeol ddiwedd yr wythnos, felly cynigiwyd ei swydd i fi. Dw i'n gweithio gyda fe ychydig yr wythnos hon ond yn gweithio ar fy mhen fy hun wythnos nesaf. Mae popeth yn mynd yn dda ar y foment.Gwela' i chi yn y dosbarth nesaf.

No comments: