08/09/2008

Wyr newydd Neil.
Dyma fy wyr newydd Daniel. Dw i'n meddwl bydd e'n chwarae rygbi dros Gymru cyn bo hir! Wythnos diwetha oedd y tro cyntaf i fi ei weld e ers iddo fe gael ei eni. Mae e'n bedwar mis oed nawr. Mae fy nwy wyres Charlotte a Sophie a fy nghyn wraig yn eistedd gyda fi hefyd. Maen nhw'n byw yng Nghaint. Arhosais i yng Nghaint fel gallwn i ymweld รข'r wyl gwrw yn Earls Court. Hefyd, es i i Hastings (ble maen nhw'n ffilmio Rhyfel Foyle) i gael pysgod a sglodion. Mae 'na siop 'sgod a 'sglod gwych yn Hastings yn agos i'r cytiau pysgota dan y clogwyni.

No comments: