29/09/2008


Penwythnos Elvis
Wel - dyn ni wedi bwcio am y flwyddyn nesa yn barod! Arhoson ni yn y Rhosyn a Choron yn Nottais (ger Porthcawl). Roedd y gwesty'n dda iawn - gyda bwyd gwych!.
Nos Wener, aeth Neil 'y bachgen Teddy' i'r Hi-Tide am noswaith o ddawnsio ac yfed gwin coch! Dych chi'n gallu gweld cwrddodd e รข Marylin Monroe!
Bore ddydd Sadwrn - brandi a choffi i ddechrau'r diwrnod am hanner awr wedi deg yn y bore. Ar ol 'na aeth popeth braidd yn niwlog!
Nos Sadwrn yn yr Hi-Tide eto - mwy o win coch ac roedd Neil 'Yr Elvis tew' yn dawnsio eto.

No comments: