21/08/2011



































Gwyliau yng Nghorsica

Cawson ni wyliau ffantastig yng Nghorsica.

Llun 1 - dyma fi yn Filitosa. Roedd safle yno o Oeosoedd y Cerrig ac roedd y cerrig hyn wedi cael eu ffeindio 'na, rhai gyda wynebau arnyn nhw. Roedd y diwrnod yn dwym iawn, felly ces i hufen iâ yn syth ar ôl tynnu llun 'ma.

Llun 2 - Dyma fi (eto)! ar noson ola'r gwyliau yn yfed coffi ar ôl pryd o fwyd hyfryd mewn ty bwyta o'r enw "Chez Anna" - ces i batsa a chafodd Dyfrig cig eidion a chaws. Chawson ni ddim pwdin ond aethon ni i gael digetif mewn caffi arall cyn mynd adre'.

Llun 3 - yn y caffi hyn roedd dewis mawr o bob math o hufen iâ. Roedd yr un hyn mor fawr, roedd rhaid i fi a Dyfrig ei rannu. Roedd y caffi hyn yn enwog iawn gan bod 180 o wahanol mathau o gwrw 'na (ond dim cwrs Felinfoel)!

Llun 3 a 5 - y pwll nofio o'r gwesty cynta' yn Calvi a'r olygfa tuag at y mynyddoedd o'r balconi.

Llun 4 - y pwll nofio o'r ail westy yn Porto Vecchio.


Cwrddon ni â chwpwl o Lanelli yn ystod ein wythnos cynta - roedd y dyn yn gwisgo crys y Scarlets ac roedd e'n dod o'r Bryn!


Dw i'n edrych 'mla'n nawr i'n gwyliau nesa' yn yr Aifft!!!!










No comments: