Newyddion Caryl
Aeth Dyfrig a finne i Blackpool dros y penwythnos - roedd fy mab a'i bartner yn chwarae mewn cystadleuaeth bandiau pres ddydd Sadwrn a gwelon ni nhw'n chwarae fore Sadwrn. Roedd y tywydd yn oer a gwyntog ar y dydd Sadwrn. Felly yn y prynhawn aethon ni nôl i'r gwesty a gorwedd yn y jacuzzi a nofio yn y pwll nofio.
Teithion ni lan brynhawn dydd Iau a chawson ni gyri (twym iawn) i swper - a botel o win wrth gwrs! Fore Gwener aethon i Madame Tussards - chwaraeodd Dyfrig golff 'da Tiger Woods a ches i beint yn y "Rovers Return". Gwnaethon ni damaid bach o siopa hefyd ac yn y nos aethon ni i gael pryd o fwyd a gweld grwp yn canu. Roedd y lleoliad yn newydd sbon - lle o'r enw "The Sands Venue". Cawson ni bryd o fwyd tri chwrs ac roedd grwp o'r enw "The Komitments" yn canu. Canon nhw llawer o ganeuon o'r ffilm enwog "The Comitments" - stori am fand o Iwerddon.
Roedd llawer o waith yn cael ei wneud yn Blackpool ar y prom ac ar y twr - roedd scaffaldau ar y twr. Aethon ni ddim lan y twr eleni achos dyn ni wedi bod ddwywaith o'r blaen ac roedd hi'n wyntog iawn!
Buodd Max yn aros 'da Monti nos Iau a rhedon nhw o gwmpas yr ardd am oriau!
No comments:
Post a Comment