31/01/2011

Newyddion Mike

Fore dydd Sadwrn cwrddais i â Caryl yn Asda. Mae hi’n edrych yn iawn a hoffai hi gofio at bawb. Bydd hi’n dychwelyd i’r dosbarth mewn tua chwe wythnos. Chwaraeais i golf ddydd Gwener gyda fy mab ifanca ar y cwrs “par 3” yng Nghlyn Abbey, darganfyddais i lawer o bêli golf ar y maes ymarfer! Fel arfer, mae Gareth o Deneriffe yn darganfod y pêlau gyda ei lygad eryr! Archebais i docynnau i weld y “Welsh Champion Hurdle” yn Ffos Las dydd Sadwrn nesaf ar y pumed o Chwefror, dw i’n edrych ymlaen at y rasys, gobeithio dw i’n ddim yn mynd i golli llawer o arian. Ddoe es i i Barc y Scarlets i weld y Cwpan LV - trist iawn, roedd ugain o chwaerawyr y Scarlets ar goll o’r tîm, Collodd y Scarlets, wrth gwrs!

25/01/2011

Newyddion Gareth Tenerife

Annwyl Gyfeillion,

Wel,dyn ni mewn i'r ail wythnos yn barod. Roedd y tywydd yn gymylog dros y penwythnos, bwrodd hi damaid bach ddydd Sadwrn. Mae'r haul yn ddisglair heddiw-dydd Llun. Mae Jackie a fi'n torheulio ar bwys y pwll nofio(mae e'n fywyd caled ond yw e). Wel, nôl i ddarllen fy llyfr Cymraeg nawr, mae chwe 'da fi, dw i ar y trydydd ar y funud (Dych chi'n clywed Caryl a Bethan ???).

24/01/2011

Newyddion Mike

Penwythnos dawel. Gwnes i fy ngwaith cartref Nos Wener, fel fy mod i’n gallu edrych ar Gwpan Heineken ar y teledu dros y penwythnos - gwaith caled. Collodd y Scarlets yn erbyn tîm Ffrengig, does dim tîm o Gymru yn y rownd nesa’ - trist iawn. Es i i’r safle gyrru cyhoeddus ym Mhentre Nicholas ddydd Sadwrn am awr. Gobeithio, dw i’n mynd i chwarae golff fore dydd Llun. Bwcais i i fynd i Florida eto, awn ni am wyliau mis Tachwedd am bythefnos gyda fy ail mab â’i deulu e.

20/01/2011

Newyddion Gareth (newydd)

Aeth fy ngwraig a fi ar ein beiciau ddoe i Gefn
Sidan. Roedd hi'n ddiwrnod hyfryd. Dyn ni'n mynd i'r cinema yng
Nghaerfyrddin heddiw i weld 'The Kings Speech'.

Newyddion Victoria

Cafodd Evan a fi’r ffliw cyn Nadolig ac roedd e’n ofnadwy. Hefyd mae’r plant wedi cael tonsillitis, ond mae pawb yn well nawr dw i’n falch i ddweud!

Dw i’n brusur iawn ar hyn o bryd gyda fy ngwaith. Ces i lythyr neis iawn oddi wrth y palas! Maen nhw’n dweud diolch i fi am y sample a dweud …’my offer would be considered carefully during the planning process’…Dwi’n lico so nhw’n dweud ‘Na’!!

Roedd hi’n neis iawn i weld pawb yn y dosbarth wythnos diwethaf a dw i wedi gwenud fy ngwaith cartref yn barod… Hwre!!

18/01/2011

Newyddion Mike

Mae Mis Chwefror yn dod! Mae’r amser yn mynd yn gymylog. Wythnos dawel ond
chwaraeais i golff gyda Gareth Tenerife ddydd Gwener diwetha, roedd
y tywydd yn iawn ond ofnadwy ers dydd Gwener.
Es i i Barc y Scarlets neithiwr ond enillodd y Scarlets ddim yn
erbyn Caerlŷr yng Nghwpan Heineken. Roedd gêm yn gyffrous ond roedd blaenwyr Caerlŷr yn rhy gryf. Collodd y dyfarnwr ei ffon wen yn ystod y gêm e, hefyd - Dyfarnwr Gwyddeleg?

Newyddion Mike

Mae Mis Chwefror yn dod! Mae’r amser yn mynd yn gymylog. Wythnos dawel ond
chwaraeais i golff gyda Gareth Tenerife ddydd Gwener diwetha, roedd
y tywydd yn iawn ond ofnadwy ers dydd Gwener.
Es i i Barc y Scarlets neithiwr ond enillodd y Scarlets ddim yn
erbyn Caerlŷr yng Nghwpan Heineken. Roedd gêm yn gyffrous ond roedd blaenwyr Caerlŷr yn rhy gryf. Collodd y dyfarnwr ei ffon wen yn ystod y gêm e, hefyd - Dyfarnwr Gwyddeleg?