29/11/2008



Neil yn Lithwania.

Penwythnos diwetha es i i Filnius yn Lithwania. Pan ro'n i 'na, ymwelais i ag amgueddfa carchar y KGB. Mae'r llun yn dangos cell dirboen. Cafodd ei defnyddio tan 1990. Roedd llawr y gell yn cael ei llenwi gyda dwr oer. Roedd rhaid i chi sefyll (yn noeth) ar y trofwrdd a cheisio cydbwyso. Os fyddech chi’n syrthio, byddech chi’n syrthio i ddwr oer iawn.

Hefyd, ymwelon ni â marchnad (ar gyfer brandi a choffi wrth gwrs), a gwestai (mwy o frandi a choffi - mmm dim coffi’r tro hwn). Aethon ni i dai bwyta i fwyta llawer o fwyd Lithwaneg (tatws)!

06/11/2008



Gêm ola' yn Strade - Stori ymweliad Neil

Nos Wener diwetha es i i Barc Y Strade i wylio'r Scarlets yn chwarae eu gem ola ym Mharc Y Strade! Ro'n nhw'n chwarae yn erbyn Bryste yng Nghwpan yr EDF.

Mae'r llun yn dangos cais gyntaf y gêm. (Cafodd y cais ei sgorio gan Morgan Stoddart).
Enillodd y Scarlets 27 - 0 ond doedd y gêm ddim yn bwysig. Hon oedd gêm ola'r Scarlets yn Strade a dyna'r peth mwya pwysig.

Am hanner amser canodd Caryl Parry Jones 'West is Best' i gofio am 'Grav'.

Ar ôl y gem - gorymdeithiodd cyn gapteiniaid y Scarlets o gwmpas Parc Y Strade, canodd Cor Meibion Llanelli a Chor Y Scarlets 'Sosban Fach', 'Hen wlad fy nhadau' ac 'Yma o hyd'.

Cwplodd y noson gyda sioe tan gwyllt.

27/10/2008



Priodas mab Gareth

Dyma lun hyfryd o fab Gareth yn ei briodas yn Barbados. Mae Gareth a'i wraig yn y llun hefyd.

16/10/2008



Hanes Neil yn mynd i weld "Queen" yng Nghaerdydd

Neithiwr, es i i Gaerdydd i weld 'Queen' (gyda Paul Rodgers o 'Free'). Ro'n nhw'n wych! Ffantastig! Canon nhw pob un o ganeuon 'Queen', a rhai o ganeuon 'Free' (Paul Rodgers oedd y prif ganwr gyda 'Free'). Chwaraeodd Brian May unawd gitar a chwaraeodd Roger Taylor unawd drwm ac wrth gwrs roedd teyrngedau i Freddie Mercury. Ro'n i'n amheus gan taw Paul Rodgers oedd yn canu ond roedd e'n dda iawn.

29/09/2008


Penwythnos Elvis
Wel - dyn ni wedi bwcio am y flwyddyn nesa yn barod! Arhoson ni yn y Rhosyn a Choron yn Nottais (ger Porthcawl). Roedd y gwesty'n dda iawn - gyda bwyd gwych!.
Nos Wener, aeth Neil 'y bachgen Teddy' i'r Hi-Tide am noswaith o ddawnsio ac yfed gwin coch! Dych chi'n gallu gweld cwrddodd e â Marylin Monroe!
Bore ddydd Sadwrn - brandi a choffi i ddechrau'r diwrnod am hanner awr wedi deg yn y bore. Ar ol 'na aeth popeth braidd yn niwlog!
Nos Sadwrn yn yr Hi-Tide eto - mwy o win coch ac roedd Neil 'Yr Elvis tew' yn dawnsio eto.

21/09/2008

Gwyliau Gareth
Aeth fy ngwraig a fi gyda fy mab a’i gariad e i Barbados ar y trydydd ar hugain o fis Awst am bythefnos. Priododd fy mab a’i gariad e pan o’n ni yno. Aeth diwrnod y briodas yn dda iawn, roedd yr haul yn disgleirio ac roedd y priodfab a'r briodferch yn edrych yn hapus iawn.
Cawson ni amser diflas ar y ffordd ma’s. Cychwynnon ni ar ein taith ni o Gatwick hanner awr yn hwyr. Ar ôl i ni fod yn yr awyr am hanner awr, gwnaeth yr awyren sŵn ofnadwy. Nesa’, clywon ni’r peilot yn siarad a dwedodd e fod rhaid iddo fe droi yn ôl i Gatwick. Cawson ni ddeg awr o oedi yn aros am awyren arall i ddod o Heathrow.
Hanner awr ar ôl eistedd lawr ar yr awyren newydd, penderfynodd un teithiwr, dyn o’r enw Mohammed, doedd e ddim eisiau teithio. Felly, roedd rhaid iddyn nhw ffeindio ei fagiau e a gadawodd e’r awyren.
Tamaid bach o ddrama ar ddechrau fy ngwyliau i....... !!!!!

11/09/2008


Gwyliau Mike yn Florida - 2008.
Ar 4 Gorffennaf aethon ni i Florida am wyliau - fy ngwraig, Wendy, fy nau fab, Dean a Warren, fy merch yng nghyfraith, Sue a fy nwy wyres, Elli a Lewis. Mae Elli yn ddwy oed ac mae Lewis yn flwydd oed.
Cyrhaeddon ni’r Unol Daleithiau ar Ddiwrnod Annibyniaeth. Roedd llawer o ddathlu. Arhosodd Dean, Suzy a’r plant yng Ngwesty’r Dolphin yn Disney.
Arhoson ni mewn condominiwm yn “Cain Island”, yn Kissimmee, ar ffordd 192.
Cawson ni broblemau - roedd y tywydd yn llaith, roedd y tymheredd yn naw deg, ac ar ôl wyth awr ar awyren doedd dim dwr twym yn y condo. Doedd pethau ddim yn dda!
Cwynais i ar y diwrnod nesaf a cawson ni gondominiwm newydd.
Arhoson ni yn Florida am bythefnos. Aethon ni i lawer o barciau Disney – Animal Kingdom, Epcot, Magic Kingdom, Kennedy Space Centre, a phob dydd cawson ni Crispy Cream Doughnuts!
Fy ymweliad i Ganolfan Gofod Kennedy oedd fy ffefryn. Aethon ni ‘na ddwywaith. Hoffwn i fynd eto yn y dyfodol. Mae gofodwyr yn ddewr iawn a chafodd llawer o ofodwyr eu lladd mewn damweiniau.
Cwrddodd Elli a Lewis ag Alice in Wonderland, y Mad Hatter, Tigger ac eraill yn y parciau. Mae Lewis yn ifanc iawn, a thorrodd e ddau ddant newydd ar ei wyliau.
Cawson ni wyliau hapus a hoffwn i fynd i Florida eto.