11/10/2011



Darn Neil

Mis: mis Hydref
Blwyddyn: 2010
Teitl: 'Take Me Out'

Ym mis Medi 2010 (ar y ffon ac yng Nghaerdydd) ces i gyfweliad ar gyfer y rhaglen deledu 'Take Me Out'. Un dydd Mercher ym mis Medi ffonion nhw fi i ofyn os gallan nhw ddod i ffilmio y dydd nesa.

Cwrddon ni yn y clwb golff y bore nesa a ffilmion nhw fi, Gareth a Mike yn chwarae golff i lawr y ffairffordd/twll cyntaf. Wedyn aethon ni i borthladd Porth Tywyn i ffilmio 'na. O'r diwedd, ffilmion ni yn fy nhy.

Ro'n ni'n ffilmio am naw awr am glip ffilm 30 eiliad yn y rhaglen.

Cafodd y rhaglen ei darlledu ym mis Chwefror 2011.
Darn Julie
Atgofion o fy swydd gyntaf
Roedd fy swydd gyntaf mewn siop wlân yn yr Alban
Ro'n i wedi gorffen astudio Ffiseg feddygol yn y brifysgol ac ro'n i eisiau gwneud gwaith hawdd. Roedd fy mhennaeth o'r Almaen ac roedd hi’n ofnadwy.
Roedd yn rhaid i ni wau o leiaf tair eitem o ddillad bob mis a dim ond y rhain cawson ni ganiatad i’w gwisgo yn y gwaith.
Roedd y diwrnod yn ymddangos yn hir ac roedd y swydd yn ddiflas iawn. Roedd y cwsmeriaid yn gas ac yn arw. Ar ôl un flwyddyn penderfynais i fynd yn ôl i'r coleg i hyfforddi i addysgu mathemateg. Roedd hyn yn llawer haws.
Darn Mike
Dw i wedi bod yn Tsieina sawl gwaith. Pan o’n i’n gweithio fel Metallurgist gyda Alcoa ro’n i’n arfer teithio i weld cwsmeriad i ddelio gyda’u cwynion. Pan ymddeolais i yn 2007 dychwelais i i Tsieina gyda fy ngwraig am wyliau. Dim ond un problem, roedd rhaid i fi dalu am y gwyliau.! Aethon ni i Beijing, Xian a Shanghai. Gyda llaw, enillodd y Scarlets yn erbyn Caeredin Nos Wener!
Darn Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Dw i'n edrych ymlaen at Hydref y pumed ar hugain, achos dw i'n mynd bant gyda fy ngwraig Jackie, ein merch ni Angela a’i theulu hi. Rydyn ni'n mynd i Deneriffe am wythnos. Gobeithio bydd yr haul yn disgeirio i ni. Dydy e ddim yn mynd i fod hawdd gyda'r baban, ond bydd digon ohonon ni i ymdopi â fe. Bydd Rocco yn dathlu ei benblwydd e, blwydd oed, yr un dyddiad a fi, ond dim yr un oedran wrth gwrs. Mae fy merch yn cael un o’n casys ni achos mae'r plentyn yn angen mwy o ddillad na fi a Jackie.

06/10/2011

Dyddiau ysgol Allan
Dechreuais i’r ysgol pan on i'n bedair oed. Ron i'n arfer mwynhau mynd i'r ysgol i weld fy ffrindiau newydd. Nid oedd rhaid i fi gerdded yn bell achos ro’n i'n byw ochr draw i'r ysgol. Enw fy athro cyntaf oedd Mr. Lucas. Roedd e'n dal ac roedd gwallt cyrliog du ganddo fe. Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae rygbi gyda fy ffrindiau yn ystod yr awr ginio. Dyddiau hapus!

04/10/2011

Dyddiau Ysgol Victoria
Es i i’r ysgol fach iawn pan o’n i’n bedair oed - Ysgol Gwynfe, ar bwys Llangadog. Roedd dim ond 16 dysgyblion yn yr ysgol gyfan, a dwy athrawes - y brif athrawes (oedd yn bwy yn Nhŷ yr Ysgol) ac un athrawes arall. Roedd dwy ffrind gorau ‘da fi, Delyth ac Olwenna (enwau Gymraeg da!) Sa i wedi’u gweld nhw ers ro’n i’n 6 oed.

Symydon ni i Rydaman pan o’n i’n 6 oed a dechreuais i Ysgol Parcyrhun. Roedd 300 o ddysgyblion yna a ro’n i’n ofnus iawn. Roedd neaudd yr ysgol yn edrych yn fawr iawn! Gwnes i lawer o ffrindiau newydd, ac ro’n i’n hapus iawn yn Ysgol Parcyrhun. Rydw i’n dal i siarad gyda rhai o fy ffrindiau o Parcyrhun a Facebook!