04/10/2011

Dyddiau Ysgol Neil
Ro’n i’n casau yr ysgol! Es i i'r Ysgol Ramadeg (bechgyn yn unig) ym Mirmingham nes i fi adael pan yn un deg chwech oed. Roedd fy nydd terfynol yn yr ysgol yn ddydd hapus iawn i fi. Roedd ffrindiau da iawn ‘da fi yn yr ysgol ond pan gadawais i yr ysgol welais i erioed mohonyn nhw eto achos ymunais i â’r llynges.
Dyddiau Ysgol Laura
Es i i Ysgol Gynradd Hen Heol ac es i nôl i weithio 'na dair blynedd yn ôl. Mae popeth yn teimlo'n llai! Mwynheuais i'r ysgol nes i fi fynd i ysgol gyfun. Chwaraeais i yn y tîm pel-rhwyd erbyn ysgolion eraill yn yr ardal a chwaaeais i r 'recorder' yng ngherddorfa'r ysgol yn y gwasanaethau. Dw i'n cofio'n cael 'amser llaeth' ac roedd y llaeth mewn poteli llaeth bach. Roedd llawer o ffrindiau 'da fi a sa i'n gallu cofio unrhywbeth drwg yn digwydd o gwbl!
Dyddiau Ysgol Julie
Mynychais i lawer of ysgolion yn ystod fy ieuenctid i. Un ohonyn nhw dwi'n gallu cofio’n dda iawn. Roedd yn ysgol unigryw yn y wlad – roedd yr ysgol yn cynnig help i fyfyrwyr oedd gyda rhieni'n 'Political Activists'. Roedd hi’n ysgol breswyl, dim ond naw oed o'n i'r adeg 'ny, ro'n i'n anhapus iawn.. Dwi'n gallu cofio unwaith, ar ôl I fi gael fy nghosbi achos mod i wedi mynd ar goll ar y ffordd i fy ngwers gwaith coed, ro'n i'n teimlio mor drist felly penderfynais i y byddwn i’n rhedeg bant. Roedd yr ysgol wedi’i lleoli ym mynyddoedd Drakensberg, cerddais i hanner ffordd lan y rhiw gyntaf a dechreuais i fy nhaith hir lan y mynydd. Ar ôl un awr a hanner ro'n i'n ofnus ac hefyd, roedd eisiau bwyd arna i, felly des i yn ôl i'r llety. Ro'n i'n siomedig iawn achos doedd neb wedi sylwi mod i wedi diflannu.

03/10/2011

Dyddiau Ysgol Mike
Fy ysgol gyntaf.
Dim atgofion hapus bob tro! Pan o’n i yn yr ysgol gynradd roedd trwbl mawr ‘da fi. Do’n i ddim yn gallu siarad yn iawn. Ro’n i‘n arfer dweud “ll” ynlle “s”.(Lilly lausage! - doedd e ddim yn ddoniol). Roedd y bechgyn yn fy ngwatar ii. Bob tro ro’n i’n brwydro a bob tro roedd y athro yn rhoi’r bai arna i. Ro[‘n i’n ymladd oherwydd ro’n i dda iawn mewn chwaraeon a rygbi a ro’n nhw tawelu’n fuan.

Dyddiau Ysgol Gareth
Yr atgof cynta sy 'da fi o fy nyddiau ysgol yw pan ro'n i yr 'Ysgol Fabanod' yn y Morfa. Bob prynhawn roedd rhaid i'r plant i gyd fynd i gysgu mewn sachau cysgu ar y llawr, ond do'n i
ddim yn mynd i gysgu -ro'n i'n rhedeg adre bob prynhawn. Roedd rhaid i fy mam neu un o fy chwiorydd fynd nol a fi i'r dosbarth bob prynhawn. Dydw i ddim yn cael siawns i anghofio fe hefyd, enwedig gyda fy chwaer hena!

30/09/2011

Dosbarth Uwch 1 yn dechrau
Dechreuodd y dosbarth Cymraeg neithiwr - Uwch 1. Roedd 7 o ddysgwyr yn y dosbarth. Ces i neges testun wrth Victoria brynhawn ddoe - mae hi'n dost yn y gwely ar hyn o bryd, mae'r ffliw arni. Gobeithio bydd hi'n temlo'n well cyn bo hir - roedd ei merch Seren yn edrych ar ei hôl hi! Mae Victoria yn gobeithio dod nôl i'r dosbarth wythnos nesa' - wedyn bydd 8 ohonon ni.

Roedd hi'n hyfryd cael Neil nôl yn y dosbarth - daeth e ag afal i fi. Dw i wedi cadw'r afal ar gyfer fy nghinio heddi ac yn edrych ymlaen i'w fwyta!

Hefyd, croeso i Julie a Louise i'r dosbarth.

Mae pawb nawr yn edrych ymlaen i'r flwyddyn ac wrth gwrs i fynd ma's i gael parti amser y Nadolig.

Gwela i bawb nos Iau nesa,
Caryl

19/09/2011

Neges wrth Gareth
Tamaid bach o newyddion - mae Jackie a fi'n dathlu penblwydd ein priodas ni heddiw, y pedwerydd ar bymtheg o fis Medi, saith mlynedd a deugain (amser hir iawn, dych chi’n cytuno?). Hefyd, mae Jackie yn cael ei phen-blwydd hi wythnos nesa (pum mlynedd a thrigain oed), Mae hi wedi cadw'n dda iawn yn fy marn i (peidiwch dweud mod i wedi dweud hynny).

02/09/2011

Hanes Mike dros yr haf

Yn ddiweddar aethon ni i garnifal Porth Tywyn, roedd y tywydd yn dda
a phawb yn ymddangos yn mwynhau eu hunain. Ar y brig oedd y “Red
Devils”, parasiwtwyr o’n nhw a neidion nhw o’r awyr o uchder o ddeg mil troedfedd a
glanion nhw drws nesaf i faes y carnifal.
Ddiwed y tymor aeth y dosbarth Cymraeg i gael cyri yn nhŷ bwyta’r
Ali Raj. Roedd y bwyd yn flasus iawn - hefyd roedd y cwrw a’r gwin yn dda.
Pan aethon ni i dalu, darganfodon ni bod Neil wedi talu’r biliau! Roedd
Neil wedi body n lwcus iawn a’r EBay a gwnaeth e lawer o arian. Am ddyn! Bydd rhaid
i fy ei adael e i ennill yn golf nawr!
Amser tawel yn ddiweddar, gwnes i gadw’n heini yn yclwb a chwarae
golff fel arfer.
Roedd y dosbarth yn adolygu Cymraeg yn Llynoedd Delta gyda David Ursine
Princes fel tiwtor. Roedd y dosbarth yn ddoniol ac ymarferol. Roedd y
Pedwar Musketeer o fy nosbarth i a chewch arall yn mwynhau eu hunain.
Cafodd fy ail fab ei benblwydd yr wythnos diwetha - pedawr deg oed! Dw i’n
teimlo hen- trist! Aeth e a’i wraig e i dy bwyta newydd, Sospan, yn
Noc y Gogledd. Dim on £99 am y ddau! Roedd y bwyd yn flasus iawn ond
roedd y gwin yn rhy ddrud.
Nawr,mae’r dosbarth adolygu wedi gorffen a dw i’n edrych ymlaen at y
dosbarth nesaf yn Ysgol y Strade - Cwrs Uwch.
Dyn ni ddim wedi bod ar wyliau hyd yn hyn ond dyn ni’n mynd i Florida Mis
Hydref/Tachwedd am bythefnos.